Theatr – Ddeinamig – Greadigol

Cwmni teithiol yw Theatr Powys sy'n cynhyrchu saith neu wyth o brosiectau bob deunaw mis.

 

> Theatr mewn Addysg

Mae Theatr Powys yn cynhyrchu Theatr mewn Addysg o’r radd flaenaf. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i fyfyrwyr o bob oed yn ysgolion Powys.

>  Teithio Cymunedol

Mae Theatr Powys yn mynd â theatr arobryn i gynulleidfaoedd cymunedol ym Mhowys a thu hwnt.

> Theatr Ieuenctid(MPYT)

Mae Theatr Powys yn hyrwyddo Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys.  O dan adain y fam mae’r cywion yn mynd o nerth i nerth.

> Darpariaeth Pobl Ifanc

Mae Theatr Powys wedi cymryd y cam cyntaf yn y datblygiad yma trwy sefydlu gweithdai iau – Llandrindod Drama Workshops(LLDW) yn 2007 ar gyfer pobl ifanc o 9 i 11 mlwydd oed.

> Y Ganolfan Ddrama

Daeth y Cwmni’n ôl i’w cartref yn Yr Hen Ysgol yn 2006 ac ail sefydlu mewn canolfan newydd sbon danlli grai. Yn ogystal â holl weithgareddau’r Cwmni mae’r Ganolfan Ddrama ar gael fel cynadleddfa, oriel a lleoliad i ddigwyddiadau cymunedol.

 

Mae Theatr Powys yn perthyn i rwydwaith o wyth cwmni Theatr mewn Addysg a chymunedol sy’n cael eu noddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae gair da a pharch i ansawdd gwaith y Cwmni a chlod i’w hymarfer Theatr mewn Addysg a’u gwaith gyda pobl ifanc.

Sefydlwyd y Cwmni ym 1972 fel Cwmni Theatr Brycheiniog. Heddiw mae’r Cwmni yn ran o Wasanaethau Adloniant, Diwylliant a Chefn Gwlad, Cyngor Sir Powys.

Mae Theatr Powys yn aelod o’r cymdeithasau canlynol, Theatrical Management Association, National Association for the Teaching of Drama a Chymdeithas Celfyddydau Perfformio Cymru ac yn gysylltiedig â gwahanol gyrff ymbarêl sy’n berthnasol i waith y Cwmni.

Mae’r Cwmni yn cael ei gyllido gan Cyngor Sir Powys a Chyngor Celfyddydau Cymru.