Scarecrow

 

Cryf a chelfydd 

Scarecrow 

Theatr Powys, Neuadd Llanofer, Caerdydd Ionawr 26, 2010  

Unwaith y flwyddyn mae’r Cyfarwyddwr Artistig Ian Yeoman yn dod â’i Gwmni Theatr Powys lawr o Landrindod i Gaerdydd. Bob tro fe ddaw â dirgelwch a rhyw hud iasoer i’w ganlyn. Mae swyn a chyfaredd yn perthyn i’r adfail ar gyrion y pentref. Yng nghynllun craff Julia Curtis mae’r dannedd o gerrig a’r coed cnotiog sy’n torri allan o’r rwbel yn cynnig lleoliad perffaith, lle cyffrous i blant. 

Tydy’r arwydd ‘Cadwch Allan’ yn gwneud dim i rwystro ein harwyr rhag gwneud y murddun yn le arbennig. Yn y gwyll mae Wynne yn ymddangos o’r llwyni cyfagos gyda bwndel o bapurau newydd, y math sy’n cael eu gadael tu allan i siop bapur newydd yn gynnar yn y boreuau. Mae hi’n cuddio’r bwndel ac wrth i’r haul godi yn chwilio am ei ffrind y bwgan brain. Ond does fawr ohono ar ôl wedi iddo gael ei gam-drin a’i dynnu o’i echel yn y cae, ei ddienyddio, ei ddiberfeddu a’i wasgaru. 

Serch hynny, mae Wynne 10 oed yn ddi-ofn ac mae Olwen Medi yn ein hudo gyda’r llonyddwch a’r harddwch mae hi’n rhoi i’r rhan. Mae’n llenwi ei sach o ben, yn eistedd y creadur i fyny ar hen gadair, yn edrych yn ddwfn i’w lygaid ac yn dechrau gofyn rhai o’r cwestiynau sy’n poeni plant – Pam mae Mam a Dad o hyd yn gweiddi? Ble mae’r awyr yn gorffen? 

Mae dau o blant eraill, Bethan ac Arthur brawd a chwaer ychydig yn hŷn yn penderfynu dod i’r hen fwthyn hefyd. Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ddod ar draws Wynne go iawn ond maen nhw’n gwybod amdani a hanes y teulu a’u halltudiaeth o fywyd y pentref. Roedd brawd y fechan yn filwr yn Afghanistan ond fe ddaeth â gwarth ar ei gatrawd ac fel canlyniad i’w ymddygiad wedi’ garcharu. Mae Bethan ac Arthur yn synnu nad yw Wynne yn drewi o bî-pî – yn wahanol i’r hyn mae clecs angharedig y pentref yn ei ddweud. Dydyn nhw ddim i fod i siarad gyda hi ac mae’r sgwrsio’n betrus i ddechrau ond cyn pen dim maen nhw’n ffrindiau cyfrinachol. Unwaith yn rhagor mae Naomi Doyle a Ralph Bolland yn ein swyno fel croten 11 mlwydd oed gyda’i phen yn llawn o ffasiwn a’i brawd ifancach ag obsesiwn â Ninja Turtles. 

Daw’r bwgan brain yn fyw ar adegau a rhoi tawelwch meddwl ewythraidd i Wynne ond chwarae didaro Chris Batten o’r glaslanc caled â’i byliau treisgar y mae Wynne yn ei dawelu, a gyda’i ffrindiau newydd yn creu cuddfan iddo yn y bwthyn yn mynd â’i ben iddo.

Diweddglo positif yn hytrach na hapus sydd yma. Mae atebion i rai o gwestiynau’r plant. Ond unwaith eto mae Ian Yeoman â’i dîm disglair gyda geiriau priodol Chris Cooper wedi’n cyfareddu a’n gadael gyda rhai o ffeithiau moel y byd sydd ohoni. 

Adolygiad: Michael Kelligan 

Gwefan www.theatre-wales.co.uk  28 Ionawr 2010