Adolygiadau
> 19/02/2008 - Little Red Riding Hood
> 23/03/2007 - Angel by Chris Cooper
> 08/04/2004 - Something That Happened Just South of Solitude

Angel
Western Mail 23.03.07/David Adams
Peidiwch byth â gadael i neb ddweud wrtho chi fod theatr gymunedol yn or-syml – hyd yn oed pan mae Theatr Powys yn datgan eu bod yn targedu unrhyw un dros chwech oed fel cynulleidfa. Mae Angel y cyflwyniad teithiol diweddaraf gan y Cwmni o Llandrindod yn llawn dop o syniadau, delweddau ac emosiynau ffrwydrol – ac eto pan ymunais i â’r criw yn Ystradgynlais roedd y gynulleidfa o blant ysgol gynradd wedi’ cyfareddu gan ddarn cymhleth o theatr.
Ar un lefel dyma hanes bachgen ifanc yn tyfu fyny mewn amgylchiadau anodd yn y pumdegau – colli ei dad, sefyll ei dir yn erbyn prifathro dideimlad, rhyw fath o syrthio mewn cariad â’r ferch drws nesa’, tra’n bod yn ffrindiau gorau gyda “angel” – bod o le arall – a’r cyfan i gefndir roc a rôl.
Ond mae llawer mwy yn perthyn i ddrama newydd Chris Cooper. Mae’n goffa i’r digwyddiadau yn Sŵes ym 1956 ac fel The Entertainer, John Osborne, sydd wedi dychwelyd yn amserol i’r West End ac yn defnyddio theatr gerdd fel alegori am oes sy’n darfod, mae’n ymwneud â’r un trobwynt mewn hanes Prydeinig. Mae dameg graff, ysmala a thaer Cooper wedi’ gosod mewn cartref a buarth ysgol yn un o gymoedd y De.
Mae ansawdd swrrealaidd i’r cynhyrchiad sy’n effeithiol iawn – er fod y ddrama ei hun efallai yn drymlwythog o arwyddocâd.
Er enghraifft mae crys y tad absennol sy’n hongian ar y lein yn cael ei staenio’n ddamweiniol gan fefusen ac rydym yn gwybod y bydd y tad yn cael ei saethu. Gyda’r cyfeirio cyson i dreigl amser mae pêl droed Hywel yn hedfan drwy’r ffenestr ac yn malu y cloc yn swyddfa’r prifathro. Yn darganfod ei atyniad at angylion mae ei athrawes yn rhoi Paradise Lost, Milton iddo a hwnnw wedi’ ddylunio gan Dore.
Serch hynny nid yw’r lefelau o ystyr yn gorbwyso ar y stori ac mae hynny’n rhannol nid yn unig oherwydd fod yma gynhyrchiad telynegol iawn llawn dychymyg ond diolch hefyd i berfformiad canolog trawiadol gan Iwan Charles gyda Naomi Doyle yn dynn ar ei sodlau fel Deryn, cariad Hywel.
Er gwaethaf yr anobaith a’r dicter mae’r ddrama’n gorffen ar nodyn o obaith. Pan mae Mam yn gadael y cartref mae teulu newydd yn symud i mewn, teulu o rhywle fel Sŵes. Dydy’r fam ddim yn hoffi gwm swigod ac yn cynnig te yn hytrach na phop ond mae’n edrych yn obeithiol am gyfeillgarwch rhyngddi hi a Deryn; “The door is open,” meddai, mewn drama ble mae drysau a gatiau’n cau byth a hefyd, dyna’r diweddglo – gyda ysbryd Hywel yr angel blentyn, yn edrych arnom gyda rhywbeth fel gobaith yn ei lygaid.



