The Stage Online - Jon Holliday

 

Mae’r ddrama gymhleth a hynod ddiddorol yma am gysylltiadau teuluol a chyfeillgarwch o fewn y gymuned yn cwblhau trioleg ysgubol Chris Cooper. Bellach mae meysydd glo y Cymoedd a iardiau ysgol Morgiana’s Dance ac Angel wedi’ cyfnewid am fryn anghysbell yn y Canolbarth. Mae merch 10 oed yn dyfalbarhau i ddod i adnabod meudwyes sy’n byw mewn bwthyn diarffordd, ble mae cyfrinachau trasig ym mêr esgyrn y waliau.Ysgrifen ar y mur, pytiau o hanes ynghudd nes daw ysbrydion y gorffennol i dorri ar draws y presennol gyda canlyniadau syfrdanol. Gyda hiwmor bras a chynnil trwyddo draw mae llwyfaniad dychmygus Ian Yeoman, dyrys ar dro, eto’n ingol a phwerus ac yn arwain at uchafbwynt angerddol. Yng nghalon y cyfan mae perfformiad gorchestol Olwen Medi, cyflwyniad cwbl argyhoeddiadol o’r feudwyes chwerw, Deryn, sy’n pendilio rhwng emosiynau eithafol wrth iddi orfod wynebu ei gorffennol. Mae Naomi Doyle yn swyno yn ei chymeriadaeth cyferbyniol o’r Carys ifanc a’i mam amddiffynnol. Fel rhith y Deryn iau mae portread Danie Croft yn hudolus o gyfoethog.Mae Xeni Berisha yn argyhoeddi fel y dyn dwad dirgel tra bod Chris Batten yn dyblu’n drawiadol yr ymyrrwr daionus lleol a thad bygythiol y ferch ifanc. Set a gwisgoedd wedi’ cynllunio gan Liz Young. Cerddlun, sy’n cynnwys roc a rôl bywiog Elvis ac yn dwyn i gof realaeth maes y gad gan Dan Lawrence. Mae taith 5 wythnos Hand in Hand yn ymweld â 22 o leoliadau ar draws Cymru a Lloegr. 

( Chris Batten ac Olwen Medi yn Hand in Hand. Cynhyrchiad teithiol Theatr Powys. Llun: Keith Morris) 

http://www.thestage.co.uk/reviews/review.php/23377/hand-in-hand