Adolygiadau
> 19/02/2008 - Little Red Riding Hood
> 23/03/2007 - Angel by Chris Cooper
> 08/04/2004 - Something That Happened Just South of Solitude

Little Red Riding Hood
The Stage – Adolygiad gan Jon Holliday – Neuadd Llanofer, Chwefror19, 2008
Hogan fach mewn hugan goch ar ei ffordd i ymweld â’i mam-gu mewn coedwig ble mae bleiddiaid yn bla. Tinc cyfarwydd? Dim ond stori dylwyth teg arall? Dim cweit, gan fod y fersiwn yma rhywfaint yn dywyllach. Mae Ruby yn cael ei chipio, yna’n cael ei hachub gan fleiddiaid dim ond i ddarganfod – wel, taw pia’ hi – mae llawer tro annisgwyl yn y goedwig iasol yma.
Mae llwyfaniad creadigol Ian Yeoman ar gyfer cynulleidfa deuluol, yn gweithio ar sawl lefel. Interliwdiau telynegol s’yn frith o ddigwyddiadau swrrealaidd a dirgelwch iasoer.Dilyniant breuddwydiol yn gwegian ar erchwyn hunllef mwy llym na Grimm.
Fel Ruby mae Naomi Doyle yn cyflwyno portread teimladwy a phigog heb arlliw o siwgwr eisin, er byddai mwy o lais yn welliant. Yn glodwiw nid yw Chris Batten fel yr herwgipiwr yn ymdrechu i liniaru dim ar ei gymeriad ciaidd. Yn cyfareddu’n gyson mae triawd o fleiddiaid gyda Danie Croft, Olwen Medi a Xeni Berisha yn cyfathrebu yn eu bleiddiaith arbennig. Maen nhw hefyd yn dyblu rhannau gan gyfrannu at yr awyrgylch bygythiol; ffrwyth yr ystafell ymarfer heb amheuaeth ond ar adegau mae’r elfennau yma yn arafu pethau ac yn ymddangos yn hunanfaldodus.
Cynlluniwyd y lleoliad anarferol gan Julia Curtis a Dan Lawrence gyfansoddoddd y caneuon a’r cerddlun trawiadol.
Cynhyrchiad nodedig arall gan Theatr Powys o Landrindod, cwmni sydd wedi cyflwyno dramâu proffesiynol a theatr mewn addysg ers 32 o flynyddoedd. Mae Little Red Riding Hood ar daith yng Nghymru a Lloegr ac yn ymweld â 25 o ganolfannau.



