Scarecrow

 

Drama newydd – Nodedig  

Scarecrow Theatr Powys Neuadd Llanofer, Caerdydd 26 Ionawr 2010   

Gall actorion yn eu hoed a’u hamser gynnig apêl di-oed wrth bortreadu plant. Gyda’r lletchwithdod hunanymwybodol, y diniweidrwydd a’r oriogrwydd, y rhwystredigaeth a’r osgo yn cael ei atgynhyrchu’n gwbl argyhoeddiadol gan y llygatgraff. Ond yr hyn sy’n hynod am ddrama newydd Chris Cooper yw’r ffordd y mae wedi llwyddo i fynd i mewn i feddyliau ei bobl ifanc. 

Yn y cynhyrchiad twymgalon yma gan Ian Yeoman mae Wynne 10 oed yn darganfod lloches o realiti anhapus mewn bwthyn yn mynd â’i ben iddo mewn coedwig Gymreig. Yn ei lle cyfrinachol mae hi’n mwynhau cwmni bwgan brain sydd wedi ei golbio ac yn ceisio dirnad yr annirnad tra’n ffantasïo am y byd tu allan; yn gofyn y cwestiynau mae oedolion yn methu eu hateb yn foddhaol. 

Pan mae dau o blant y pentref yn tarfu ar ei chuddfan, mae’r triawd yn darganfod bod cyfathrebu â’i gilydd yr un mor ddyrys â cheisio deall agweddau eu rhieni. Mae dyfodiad disymwth troseddwr ifanc 15 oed yn gorfodi’r pedwar i wynebu’r cyfaddawdau sy’ ynghlwm â dod i oed. 

Mae teimladau cyfnewidiol y bobl ifanc mympwyol yma a’r chwarae rôl diniwed yn cael ei gyflwyno’n llawn tynerwch gan y cast o bedwar. Mae Olwen Medi yn ingol o fregus fel Wynne ac yn cyferbynnu gyda lletchwithdod trwsgl bachgennaidd Arthur, Ralph Bolland, fflyrtian pryfoclyd Bethan, Naomi Doyle a pherygl byrbwyll Gaz ar ffo, Chris Batten. 

Julia Curtis yw’r cynllunydd gyda’r lleoliad atgofus yn cael ei oleuo gan Nick Johnson Walker. Cerddoriaeth a sain gan John Hymas a Dan Lawrence. Mae’r daith chwe wythnos yn ymweld â 21 o ganolfannau ac yn gorffen yng nghanolfan y cwmni yn Llandrindod.    

Adolygiad: Jon Holliday The Stage