Something That Happened Just South of Solitude gan Robert Wallbank

Western Mail 08.04.04/David Adams

Gallech feddwl bod clasur John Steinbeck, Of Mice and Men, yn ddigon o her i ddarllenwyr ifanc: o fewn y tudalennau mae trueni gweithwyr fferm ym mowlen lwch y tridegau cynnar, ymrwymo gwrywaidd, bobl yr ymylon, diniweidrwydd, creulondeb y Freuddwyd Americanaidd a llawer mwy, oll o fewn fframwaith myth Groegaidd a dinoethiad o’r system gyfalafol.

Ond fel arfer mae Theatr Powys yn gwthio’r ffiniau, y tro yma trwy feddiannu’r nofel a’i chymhwyso i brofiad bywyd person ifanc ym Mhowys heddiw.

O’r Gorllewin Canol i’r Canolbarth ‘te wrth i’r Ceri un ar bymtheg oed gadw draw o’r ysgol a chael ei hun ar hap ym myd ffuglennol Steinbeck a pherthynas George a Lenny.

Er fod Something That Happened Just South of Solitude (amrywiad bychan ar is-deitl yr awdur), wedi’ fwriadu ar gyfer cynulleidfaoedd yn eu harddegau, gall y fersiwn medrus a phryfoclyd yma o, Of Mice and Men, apelio at gynulleidfa hŷn hefyd, fel ddigwyddodd yn Y Baverstock ger Aberdâr fel rhan o Gynhadledd ThmA Cymru.

Ar un lefel mae’n cymryd y nofel (yn hytrach na’r ddrama addaswyd gan yr awdur ei hun – berfformiwyd mor llwyddiannus gan Theatr y Torch llynedd) ac yn rhyddhau Steinbeck i siarad, yn rhannol yn ei eiriau ei hun fel traethydd ond hefyd pan mae’n cael ei herio gan ei holwraig ifanc, ar lefel arall mae’n gadael i ni ystyried ymhle mae ystyr y gair – ai ym mwriad yr awdur ynteu yn ein dull ni , y gynulleidfa o ddarllen y gair.

Mae’r ferch ifanc yn dilyn proses Steinbeck o greu cymeriad a sefyllfa wrth iddo fyseddu ei deipiadur ac yn cysylltu y cyfan â’i phrofiad hi ei hun – mae hi’n cymryd rôl gwraig Curly, menyw ifanc gamddealledig sy’n byw mewn byd gwrywaidd ac yn breuddwydio am fywyd glamoreiddiedig tra’n gaeth rhywle i’r de o Soledad.

Mae’r dramodydd Robert Wallbank hefyd yn dangos ei fod yn ymwybodol o’r darlun ehangach, trwy gymryd y stori yn null trasiedi Groegaidd a’n gosod yn yr un safle â chynulleidfa yn Athen – mae’n dweud ar y dechrau beth sy’n mynd i ddigwydd ar y diwedd wrth i Ceri yngan “Lenny dies, doesn’t he.” Mae Willy Russell yn gwneud yr un modd yn Blood Brothers.

Gan gynrychioli’r darllenydd mae Ceri yn cwestiynu ac yn herio’r awdur, mae ef yn y diweddglo taclus yn trosglwyddo’r llawysgrif orffenedig iddi, y stori orffenedig gellid tybio, ond fel hyn mae’n ildio ei hawl ar y naratif.

Serch hynny mae’n awgrymu bod a wnelo Steinbeck mwy gyda realaeth cymdeithasol wrth iddo dro ar ôl tro gyfiawnhau’r plot i Ceri gyda’i “that’s the way it is” – tra i mi mae cryfder y llyfr yn gorwedd yn y gwahanol lefelau o ystyr, nid yn lleiaf ei gondemniad o gyfalafiaeth greodd nid yn unig y fowlen lwch ond sy’n annog breuddwydion gwag ac yn creu anghydraddoldeb.

Rhaid peidio anghofio mae rhan o raglen gyfranogol diwrnod llawn Theatr mewn Addysg yw’r cynhyrchiad yma, rhaglen sy’n archwilio rôl llenyddiaeth ym mywydau pobl ifanc heddiw. Mae’r anghysondebau yno i herio’n syniadaeth am ddarganfod ystyr mewn naratif.

Os yw dyn yn teimlo fod y ddrama yn gyfyng ei dehongliad nid felly y perfformiadau. Dyma ddarn arbennig o theatr wedi’ gyfarwyddo gan Ian Yeoman(sydd hefyd yn chwarae Steinbeck) a’i berfformio’n ddeheuig gan Danie Croft, Chris Batten a Paul Fields ar set llawn symbolaeth Jill Rolfe o esgidiau mawr a bocsys.

Mae yma funudau hudolus o theatrig, dyna Ceri yn cicio ei phymps i ffwrdd ac yn llythrennol gamu mewn i esgidiau uchel gwraig Curly, yn datod ei gwallt ac yn trawsnewid o ferch ifanc yn ei harddegau i fenyw gydymdeimladol sydd ddim yn ymwybodol o’i rhywioldeb. Mewn amrantiad hi yw canolbwynt y ddrama yn hytrach na’r dynion a thynged truenus Lennie, yr oen aeth i’r lladdfa.