

Darpariaeth Pobl Ifanc
Yn 2007 ehangodd y Cwmni y ddarpariaeth gyda sefydliad y Llandrindod Drama Workshops (LLDW) ar gyfer pobl ifanc o 9 i 11 mlwydd oed – gweithdai tu allan i oriau ysgol i ddisgyblion ysgolion cyfagos Trefonnen a Chefnllys. Mae’r gweithdai iau yma yn amcanu cwmpasu amiddisgyblaeth theatr, dawns, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol i gynorthwyo pobl ifanc i fynd i’r afael â phynciau a digwyddiadau sy’n cyffwrdd â’u bywydau; a hynny’n ystyrlon a chreadigol.
Yn ogystal mae'r Cwmni'n gobeithio cynnal digwyddiadau gyda chymdeithasau ieuenctid eraill o Gymru a thros Clawdd Offa, all arwain at ymweliadau cyfnewid i bobl ifanc y canolbarth.



