Digwyddiadau
> Digwyddiadau: Theatr mewn Addysg
> Digwyddiadau: Theatr Gymunedol
> Digwyddiadau: Theatr Ieuenctid (MPYT)
> Digwyddiadau: Darpariaeth Pobl Ifanc
> Digwyddiadau: Y Ganolfan Ddrama
Digwyddiadau

Y Llinyn Arian
Rhaglen hanner diwrnod o Theatr Mewn Addysg ar gyfer Blynyddoedd 1 a 2
Diwrnod ysgol cynta' Nansi. Diwrnod sy’ wastad yn sialens i bwy bynnag y bo. Mynd â gwynt rhywun. Yn enwedig rhywun fel Nansi, plentyn sydd â llygaid y byd arni. O ble mae Nansi’n dod? Y noson honno mae’r lodes yn swatio’n dynn gyda Sblot y ci o dan y garafán. Mae’n clywed anadl cwsg Mam a Dad, Margaret Ann a Jimi ond nid yw’n gallu dal ei hanadl ei hun. Dydy cwsg ddim yn dod. Yna i ffwrdd â hi - hi a Sblot ar siwrnai o ddarganfod. Ar hyd lonydd gwledig yr oes o’r blaen i’r lleoedd parcio ar eu hochr heddiw a’r tir diffaith ar gyrion y dref; llwybr all ddadlennu pwy a beth ydy Nansi a sut y gall fynnu ei yfory.
Mae'r rhaglen yma yn tywys Nansi a'i chyfoedion ar siwrnai i ddod o hyd i'r geiriau all ddangos i'r fechan pwy ydy hi. Geiriau all silio eu cyfeillgarwch. Profiad cymdeithasol fydd Y Llinyn Arian. 'Sbardun trwy stori agos-atoch fydd yn hybu lefel uchel o wrando, hunanfynegiant a chydweithio. Mae’r rhaglen yn gyfraniad tuag at ein cydnabyddiaeth o’r Gypsy Roma Traveller History Month, sef Mehefin 2008 a’r Decade of Roma Inclusion 2005/2015.
Llun 22 Medi - Ysgol Dyffryn Trannon, Trefeglwys
Mawrth 23 Medi - Ysgol y Bannau, Aberhonddu
Mercher 24 Medi - Ysgol Pontsenni
Iau 25 Medi - Ysgol Rhiw Bechan, Tregynon
Gwener 26 Medi - Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt
Llun 29 Medi - Ysgol Trefonnen, Llandrindod
Mawrth 30 Medi - Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd
Mercher 1 Hydref - Ysgol Llanfihangel-yng-Ngwynfa (yb)
Iau 2 Hydref - Ysgol Gynradd Llanfyllin
3 - 5 Hydref - National Association for Teaching of Drama Conference, Oxford
Llun 6 Hydref - Ysgol Glantwymyn (yp)
Mawrth 7 Hydref - Ysgol Llanbrynmair (yp)
Mercher 8 Hydref - Ysgol Gynradd Machynlleth + 6yh Noson Agored
Gwener 10 Hydref - Ysgol Ynysgedwyn (yb)
Llun 13 Hydref - Ysgol Dôlafon, Llanwrtyd (yb)
Mawrth 14 Hydref - Ysgol Gynradd Rhaeadr
Mercher 15 Hydref - Ysgol Gymraeg Cwmtwrch
Iau 16 Hydref - Ysgol Gynradd Dyffryn Banw, Llangadfan
Gwener 17 Hydref - Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion
Llun 20 Hydref - Ysgol Llanerfyl yn Neuadd y Pentref
Mawrth 21 Hydref - Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant (yp)
Mercher 22 Hydref - Ysgol Pennant, Penybont Fawr/Ysgol Efyrnwy + 6yp Noson Agored
Iau 23 Hydref - Ysgol Pontrobert, Meifod (yp)
Yn perfformio: Olwen Medi & Ffion Wyn Bowen
Pecyn Athrawon: Danie Croft
Cyfarwyddo: Ian Yeoman
Cynllunio: Jill Rolfe
Cerddoriaeth: John Hymas
Rheolwr Cynhyrchu: Nick Johnson Walker
Cynorthwywyr cynhyrchu: Paul Fields, Tia Swan, Marc Swan
a Megan Beales-Cox
Prif Reolwraig: Nikki Leopold
Gweinyddwraig: Sue Early
Dylunio: Lyndon Scott
Os hoffech weld Y Llinyn Arian yna ffoniwch Sue Early ar 01597 824444 i archebu lle. Mi fydd y rhaglen yn dechrau yn yr ysgolion tua 9.45 y bore a 1.15 y prynhawn. Er mwyn cael profiad llawn o’r rhaglen, rydym yn disgwyl i ymwelwyr fedru ymrwymo i fore neu i brynhawn cyfan. Mae pedwar lle ar gael i ymwelwyr yn ystod pob sesiwn.

The Snow Queen gan Brad Birch & Andrew Sterry
Addasiad newydd sbon o’r chwedl ar gyfer MPYT
Mewn gwlad uwchlaw'r tymhorau, yn llgad y storm mae Brenhines yr lâ yn creu drych sy'n troi da yn ddrwg a'r hardd yn hagr. Mae'r drych yn dryllio'n delichion a'r darnau mân mileinig ar garlam yn yr atmosffer, mae dau yn gwanu Kai - yn rhewi ei galon, yn cymylu ei olwg ar y byd. Wedi' hudo gan hanesion am ei dad mae Kai yn garcharor ym mhalas rhew y frenhines gyda pawb yn credu ei fod wedi marw. Pawb ac eithrio Gerda, ei ffrind gorau. Dewrder yn troidio tirwedd hud a lledrith ym mherson merch ifanc mewn ymgais i achub ei ffrind bore oes...
In a brand â
Cyfarwyddwr: Andrew Sterry
Coreograffydd: Sîan Haslock
Cyfansoddwr: Matt Davison
Cynllunio Gwisgoedd: Jill Rolfe & Carys Hobbs
LET YOURSELF GO TO THE EYE OF THE STORM
Mawrth 4 - Sadwrn 8 Tachwedd am 8yh, Gwener 7 Tachwedd am 12yp
Tocynnau: £8/£5 Wyeside Arts Centre 01982 552555

Gig yn Y Ganolfan
Black Sheep White Sheep
Yn cynflwyno eu ffest arbenigol o gerddoriaeth jazz a ska gyda twtsh o klezmer a thinc o ddwyrain Ewrop
Ellethia
Perfformiad yn cyfuno'r gwerin-gothig acwstig
The Talbatross (Benjamin Talbott)
Canwr a chyfansoddwr acwstig yn tynnu ar ddylanwad ffync gwerin
Sadwrn 15 Tachwedd 8yh
Tocynnau cadw: £5 ar 01597 824444



