Amcanion Addysgol ac Artistig yn yr Ysgol
Beth mae Theatr mewn Addysg (ThmA) yn amcanu’ wneud?
Sut mae dealltwriaeth ddychmygus plentyn yn datblygu’n arf ar gyfer dysgu cysyniadol.
Ym more bach y diwrnod ysgol mae’r plant yn astudio portread o’r Brenin.
Yn eistedd mewn ffrâm gwir faint mae actor/athro(a/a). Coron ar ei ben, mantell yn ei gylch a maneg ledr ar un law yn barod i dderbyn ei hebog hela. Wrth ei draed, torth o fara.
A/a yn gwahodd y plant i estyn eu dychymyg a gosod eu hunain y tu ôl i lygaid y Brenin.
Wrth i’r Brenin edrych allan dros ei dir, beth all e weld, ei arogli, ei flasu o’i Deyrnas?
Llais plentyn: Mae’n gweld hen bont yn croesi’r afon rhwng ei gastell a’r dref ble mae’r farchnad. Mae ‘na lawer o fobl ar y bont….ffermwyr yn mynd i’r farchnad a gweision yn rhedeg…ar eu diwrnod rhydd o weithio yng ngheginau’r Brenin…
A/a: Beth ydy enw’r bont?
Llais arall: Pont y Castell
Mewn cyflwyniad theatrig mae’r plant yn dysgu fod y Brenin wedi cymryd i’w wely ers saith mlynedd bellach. Mae ei fobl yn credu ei fod yn methu yn ei gyfrifoldebau fel brenin. Wedi’ ffieiddio gan ei ymddangosiad ei hun mae’r Brenin wedi gorchymyn dinistrio pob drych yn y Deyrnas yn ogystal.
Yn ddiweddarach yn y bore mae’r plant wedi ymgynnull o gwmpas tomen o gerrig. Maen nhw’n gwybod bod y fangre yn arwyddocaol i blentyn sy’n byw yn y Deyrnas. Mae’r plentyn yma yn galaru am ei Mam fu farw ychydig wedi cyfnod y torri drychau. Wrth i’r plant symud y cerrig maen nhw’n darganfod rhuban gwallt, bocs canu a drych llaw. Mae’r plant yn unfryd mae anrheg gan y fam yw’r drych ac mai dyma’r drych olaf yn y Deyrnas. Pan mae’r plentyn yn chwarae cerddoriaeth y blwch mae’n clywed llais ei Mam. Pan mae’n edrych yn y drych mae’n gweld adlewyrchiad o wyneb ei Mam yn ei wyneb hi.
A/a yn cynnig llun o ferch ifanc yn eistedd wrth y cerrig ac yn gwahodd y plant i osod y gwrthrychau o fewn y llun. Mae’r rhuban yn cael ei osod fel llinyn cyswllt rhwng llaw y ferch, y bocs a’r drych, sydd yn gorffwys rhwng y cerrig fel pwll llefrith.
A/a: Mae’r rhuban fel pont….Tybed beth fyddai enw’r bont yma?
Llais plentyn arall: Pont Rhuban y Cof.
A/a: Tybed ydy Pont Rhuban y Cof mor gryf â Phont y Castell?
Llais arall: Na, os ddaw’r Brenin i wybod fod drych ganddi bydd y bont yma yn cael ei chwalu.
Yn ddiweddarach yn y prynhawn mae’r plant a’r a/a yn chwarae rôl. Fel cyfranogwyr mewn cyfarfod cyhoeddus maen nhw’n trafod cyflwr y Deyrnas a’r goblygiadau parhaol o fod heb ddrychau.
Llais plentyn: Mae’r drychau’n bwysig achos rydyn ni’n gallu gweld o le rydyn ni wedi dod a chofio beth sy’n bwysig i ni.
A/a mewn rôl, yn taer gytuno ac yn ychwanegu: Mae pawb angen pont o ble maen nhw nawr i’r gorffennol a’r hyn sydd wedi’ creu nhw! Os ydy’r pontydd yna wedi chwalu does gennym ni ddim syniad ble’r ydyn ni’n mynd!
Ar ddiwedd y dydd mae’r plant yn creu drych. Maen nhw’n defnyddio gwrthrychau o’u profiad yng nghorff y dydd a’u gosod yng ngherrig Pont Rhuban y Cof. Maen nhw’n dymuno adlewyrchu i’r Brenin gyflwr ei Deyrnas a’u hymwybyddiaeth o gyflwr presennol ei bobl. Mae’r plant yn cynnig: Gosod llyfrau ysgol i gynrychioli’r bont rhwng anwybodaeth a dysg.(Dydy’r bont yma ddim yn ddigon cryf, mae angen ei hatgyweirio). Mae’r bont rhuban yn dal i sefyll ond mae maneg fawr y Brenin yn ei gorchuddio ac yn pwyso’n drwm arni. Mae ffon gerdded yn cysylltu llawer o’r gwrthrychau…Mae’r henoed yn y Deyrnas yn cofio ble mae’r holl bontydd…
Datblygu Cysyniadau
Rhoi arfau yn nwylo plant…y mae gofyn iddyn nhw eu defnyddio.
Yn yr enghraifft uchod roedd yr a/a yn gallu gweu delwedd ddychmygus i blethiad y rhaglen:
Bodolaeth pont yn gwahanu y castell a’r Brenin o fywyd pob dydd ei bobl yn y Deyrnas ffuglennol…ac ail osod ystyr go iawn pont ar lefel mwy trosiadol (cyfanfydol) yn ddiweddarach.
I’r plant mae’r syniad o’r Bont Rhuban yn ymddangosiadol gysylltiedig â’r ferch ifanc, ei sefyllfa a’i seicoleg. Mewn gwirionedd roedden nhw’n darparu’r cysyniadau sy’n gallu ein cynorthwyo i esbonio ein holl brofiadau a’n ‘bod’ dynol. Datblygodd y cysyniad o bont a phontio yn raddol yn arf cymdeithasol yn nwylo’r plant i ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r byd ffuglennol – go iawn yma.
Y Byd Go Iawn a’r Byd mewn Drama
Sut mae ThmA yn amlygu cyffyrddiad y byd go iawn.
Mae elfennau cyfranogol rhaglen ThmA: y gair, stori, theatr, rôl, lleoliadau dethol, gwrthrychau, cerddoriaeth efallai; yn cyfuno i greu byd ffuglennol i’r cyfranogwyr gamu mewn iddo a’i archwilio ochr yn ochr â’r a/a.
Mae dwy elfen yn hanfodol i greu byd ffuglennol toreithiog:
1.Diriaethu nodweddion yr ymdrech ddynol am fywyd a thyfiant mewn sefyllfaoedd penodol.
2.Diriaethu amgylchiadau lleoliad y frwydr. Gan ganiatáu ymdeimlad o wladwriaeth, economi, cyfraith, gwahanol gredoau; y grymoedd sydd ar wahân i’r unigolion ond sydd â rhan mewn rheoli a llunio eu hymddygiad.
Mae cyplysu yr holl elfennau yma o ysgogiad ynghyd â defnydd gofalus o gonfensiynau drama sy’n lliwio’r archwiliad, wedi’ cynllunio i wneud y cydberthnasau cymhleth rhwng sefyllfa bywyd yr unigolyn a’r amodau gwrthrychol o fewn y byd ffuglennol yn gyffyrddadwy. Yn gyffyrddadwy, a hynny’n synhwyrus, mae’r archwiliad yn gallu dechrau ac felly y siwrnai o ddealltwriaeth dychmygus a chwilfrydedd i ddealltwriaeth go iawn.
Felly o ran ThmA, mae Theatr Powys yn ceisio rhoi o fewn cyrraedd yr hyn sydd yn fynych yn ddirgelwch, wedi’ orchuddio neu’ wyrdroi ym mywyd go iawn y plentyn. Mae’r rhaglen ThmA ar waith gyda’r a/a yn bont fyw rhwng:
NI yn y byd yn y ddrama a NI yn y byd go iawn.
Mae’r meddwl yn datblygu trwy ryngweithiad gyda’r byd a’r broses o adlewyrchu a phrosesu sy’n gallu cyd-deithio gyda’r rhyngweithiad yma. Mae’r plant yn rhyngweithio gyda cyd-destun ffuglennol y rhaglen. Mae’r a/a yn cynorthwyo’r rhyngweithio, yr adlewyrchu a’r prosesu. Swyddogaeth yr a/a yw canoli; ymyrryd rhwng y plentyn a’r deunydd yn ei gyd-destun; gan gynorthwyo ffocws a diriaethu y modd mae’r plant fel unigolion ac yn gymdeithasol yn amgyffred y sefyllfa.
Mae’r a/a yn caniatáu i bethau gael eu gweld; caniatáu i’r plentyn ddewis y gair; caniatáu i’r plentyn fynegi gweithred; caniatáu i’r plentyn fanylu ym mhob penderfyniad; i ddethol.
Yn ogystal mae’r a/a yn mynnu fod y gweithgarwch yn gymdeithasol.
Mae profiad y plentyn o’r stori, rôl ac elfennau cynllunio y rhaglen yn gyffredin i fyd chwarae dychymyg y plentyn. Wrth chwarae mae pob plentyn yn feistr ar ei fydysawd.
- Mae naid rydd trwy ofod ac amser yn galluogi "nos da" i fod yn "bore da" mewn amrantiad.
- Mae dull o drafod gwrthrych yn golygu y gall ffon fod yn geffyl, gwn, ffon hud neu gleddyf fel bo’r angen. Mae bwrdd â’i draed i fyny yn gwch ar fôr o garped. Y cynfasau yn hongian rhwng darnau o ddodrefn yn ysbyty, carchar, neu guddfan yn ôl galw’r stori ar y pryd.
- Maen nhw’n ymarfer iaith gyfrin yr oedolyn: "Beth ydw i’n mynd i’ wneud gyda ti"…… "Beth oedd pwynt hynna?"
- Maen nhw’n hogi eu dealltwriaeth o ystum ac arwyddo corfforol: gwneud cacen, bwydo’r babi, llawfeddygaeth, dienyddio’r bradwr.
Trwy gydol yr archwiliad yma o ffordd y byd o weithredu maen nhw’n ymwybodol ei fod yn ddychmygol… er hynny maen nhw’n ymroi cant y cant i realedd y sefyllfa. I’r hyn sy’n cael ei archwilio mae’n hanfodol fod y gêm yn cael ei chwarae’n onest.
Ac yn union fel chwarae dychmygol mae’r rhaglen ThmA yn gofyn am weithredu.
Rhyddid mewn Gweithred
Galw am Ymresymiad a Phenderfyniad ar y Cyd.
Wedi cyflwyno cymhlethdod y byd a’n safle o’i fewn yn rhywbeth cyffyrddadwy sydd ar gael i’w archwilio, nodwedd arwyddocaol arall ym methodoleg ThmA yw’r rheidrwydd ar i blant a phobol ifanc weithredu. Wrth fynnu ymyrraeth y cyfranogwyr mae’r rhaglen yn mynnu bod gwybodaeth newydd; syniadau a theimladau yn cael eu rhoi ar brawf. Gweithredu cymdeithasol sydd ei angen mewn ThmA: mae’r plant yn gweithio gyda’i gilydd. Maen nhw’n gweithio fel uned ac yn ymwybodol bod goblygiadau ynghlwm â’u penderfyniadau. Yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb maen nhw’n gweithredu ac yn trawsnewid y byd ffuglennol sy’n cael ei archwilio. Maen nhw’n rhydd i ddefnyddio eu pŵer: ac mae’r defnydd yma o bŵer yn mynnu eu bod yn gwrando ar y naill a’r llall, yn cyfathrebu, yn cyd-drafod, herio a chefnogi ei gilydd.
Mewn bywyd mae’n hysbys fod pob gweithred yn arwain at ddatblygiad mewn sefyllfa, yn esgor ar gwestiynu pellach a’r angen am weithredu pellach. Mae’r un mor wir ym mhrofiad y rhaglen ThmA. Mae plant yn gwybod nad ydy’r problemau a’r pryderon ffuglennol maen nhw wedi dod ar eu traws wedi’ datrys yn eu cyfanrwydd. Ond maen nhw hefyd yn teimlo eu bod nhw wedi cyflawni rhyw ddatblygiad…rhyw fynegiant o’r hyn maen nhw wedi dod i’w wybod…datrysiad yn y funud arbennig yma.
Mae ThmA yn caniatáu i’r plentyn gyfranogi mewn gweithred o’r dychymyg ar waith ac ar y cyd.
Theatr mewn Addysg a’r Cwricwlwm
Nid dim ond ”Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 o’r Cwricwlwm Cenedlaethol…”
I fobl ifanc felly, mae manteision rhaglen ThmA wedi’ saernïo a’i throsglwyddo yn dda yn mynd tu hwnt i’r trosglwyddiad difyr o bocedi o wybodaeth sydd o fewn peirianwaith y Cwricwlwm. Yn sylfaen i ddatblygiad gwaith Theatr Powys dros y blynyddoedd diweddar ac yn sicr dros y blynyddoedd i ddod mae cwestiynau a phryderon allweddol, yn addysgol a diwylliannol megis:
Y Dychymyg, Stori ac Ideoleg.
Hunaniaeth a Gwahaniaeth Diwylliannol.
Yr Amgylchfyd Naturiol sy’n Ein Cynnal a ble rydyn ni’n Byw.
Dysgu ac Addysgu.
Beth yw Hanes?
Creu yr Amodau i hyrwyddo Datblygu a chynnal Cyfrifoldeb Cymdeithasol.
Mae’r pryderon diwylliannol yma yn ategu llawer i faes yn y Cwricwlwm mae’r athrawon yn delio â hwy yn ddyddiol yn yr ystafell ddosbarth. Serch hynny, nid yw Theatr Powys am ddatblygu gwaith sydd ond yn cyflenwi categorïau o wybodaeth sy’n berthnasol i’r Cyfnodau Allweddol o fewn y Cwricwlwm. Dydyn ni ddim yn dymuno bod yn wers arbenigol sy’ ynghlwm â tharged cyrhaeddiad. Yn hytrach gall ein gwaith gynorthwyo athrawon i danio dychymyg beirniadol eu myfyrwyr mewn archwiliad o’r cwestiynau sylfaenol sy’n effeithio holl feysydd y profiad dynol. Rydym yn gobeithio bod profiad plentyn o’n gwaith yn taflu goleuni ac yn drosglwyddadwy i bob agwedd o’u profiad addysgol. Mae ymateb i’n gwaith yn awgrymu ein bod ar y llwybr iawn.
Yn gynyddol mae cynifer o gwmnïau yn cyflwyno gwaith yn benodol i ateb gofynion cyfyngedig meysydd llafur y cwricwlwm gan wybod y bydd yn haws ei blethu i’r system. Mae ambell i Awdurdod Addysg wedi gosod cyfyngiadau wrth fynnu y dylai’r gwaith “ddiwallu anghenion yr ysgolion.” Ar dro mae cwmnïau wedi datblygu’r gwaith fel canlyniad i bwysau ariannol a’r pwyslais ar werthu’r gwaith yn llwyddiannus i ysgolion. Ond ambell i dro mae oportiwnyddion (nid artistiaid nac addysgwyr mohonynt) wedi gweld bwlch mewn marchnad newydd ac ond yn rhy fodlon i gyflenwi cynnyrch i gleientiaid gydag ychydig o wybodaeth a llai fyth o ddiddordeb yn yr hyn allai fod yn bosibl.
Mae’r pwyslais yma gan y Cwricwlwm yn gosod cynsail y mae Theatr Powys yn awyddus i’w osgoi ar bob cyfrif. Rydym yn ymwybodol nad yw hon yn gorlan ffasiynol i fod ynddi. Mae ein gwaith yn gofyn llawer gan ysgol. Mae hi’n anos derbyn rhaglen ddiwrnod llawn i rif gymharol fychan o fyfyrwyr heddiw nag ydoedd ddeng mlynedd yn ôl. Mae llawer o ysgolion dan amodau i ddosrannu adnoddau prin ar brynu profiad o theatr fyw i mewn i’r ysgol ac wrth reswm maen nhw’n awyddus fod cynifer posibl o fyfyrwyr yn elwa o’r gwariant yma. Rydym ni yn mynnu gweithio gyda cymhareb a/a-disgybl uchel. Rydym yn ceisio creu gwaith sy’n ateb anghenion plant a phobl ifanc: Datblygu bodau dynol, sy’n bodoli o fewn cyd-destun eu hysgolion, eu teuluoedd, eu cymunedau ehangach a’r byd yn ei gyfanrwydd.
Ers sawl blwyddyn bellach mae dyn yn dyst i’r ymgais ddiddiwedd i ddiffinio ac ailddiffinio termau – i gynnal archwiliad i ddarpariaeth theatr broffesiynol ar gyfer pobl ifanc. Sylwch ar y cyfeirio mynych at Anghenion Ysgolion a Gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol; Angenrheidrwydd cael Gwerth eich Arian a Phwysigrwydd Pynciau’n Ymwneud â Rhwystro Eithrio Cymdeithasol…
Ble felly, mewn trafodaeth wedi’ hamgylchynu gan yr ystyriaethau yma mae craidd gwaith Theatr Powys gyda phobl ifanc?
Beth am y cwestiynau addysgol a diwylliannol sylfaenol yr ydym yn ceisio eu hamlygu? Beth am anghenion ein plant? Ydy yr hyn y mae plentyn ei angen yr un fath ag anghenion ein hysgolion a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol? Pwy sy’n gofyn y cwestiynau yma?
Mae Theatr Powys yn credu bod y cwestiynau yma yn hanfodol bwysig. Rydym yn awyddus i weithio gydag eraill o’r un feddylfryd. Rydym yn credu bod ystyriaeth ddamcaniaethol cyson o swyddogaeth ein gwaith yn anhepgorol i unrhyw strategaeth ar gyfer datblygiad pellach. Bydd ein penderfyniad yn hyn o beth yn crisialu ffrwythlondeb go iawn ein hymarfer gyda phobl ifanc ac yn gwarantu goroesiad y ddysgeidiaeth a’r ymarfer sy’n gynsail i’r cyfan.



