Etifeddiaeth: Cynhadledd i Ddathlu Theatr ar gyfer Pobl Ifanc a’i Fuddsoddiad yn Nyfodol Cymru
Detholiad o dystiolaeth Naomi Doyle. Actor/Athro, Theatr Powys
Yn fy marn i dylai Theatr mewn Addysg gynorthwyo pobl ifanc i adnabod eu hunain ac eraill yn well ac fel canlyniad ddeall y byd yn well. Ond wrth gwrs wrth weithio yn y maes mae’n rhaid i ni fel ymarferwyr ochel rhag peidio â brwydro gyda’r un cwestiynau. Nid hyfforddwyr nac athrwon sy’n trosglwyddo gwybodaeth mohonom ond yn hytrach canolwyr; canolwyr rhwng pobl ifanc a’r byd o’u cwmpas. Rwy’n credu y dylem weithio yn yr hyn mae Dorothy Heathcote yn ei alw’n ‘the crucible model.’ Hynny yw, dylem fod yn cymysgu a throi popeth mewn crochan enfawr ac yn dysgu, y naill oddi wrth y llall yn y funud.
Yn Theatr Powys rydym yn brwydro i ddal gafael mewn rhaglenni cyfranogol diwrnod llawn(ThmA), ond hyd yn oed wedyn prin yw’r oriau mae dyn yn ei rannu gyda plant. Yn ein hoes fodern mae cymaint yn digwydd ar ras fel y gallwn yn hawdd golli gafael ar ystyr a phwrpas. Eto mae gan blant angen amser i feddwl, prosesu ac ystyried. Gydag amser daw’r gallu i dyrchu’n ddyfnach i’r deunydd. Un peth ‘dwi wedi’ ddysgu yn fy amser gyda Theatr Powys yw peidio ag ofni distawrwydd. Gall munud o ddistawrwydd esgor ar funud o fyfyrio; amser i’r plant ddychmygu eu ffordd i mewn, ystyried ac ymrwymo â’r deunydd sy’n cael ei gynnig.
Am y rhan fwyaf o’r flwyddyn ddiwethaf buom yn gweithio ar raglen gydag adrannau babanod(ac yn achlysurol adrannau iau), The Giant’s Embrace(Gafael y Cawr). Pan ddechreuodd ein cyfnod o ymarfer roeddem mewn safle cryf i roi sylw i’r theori a’r ymarfer sy’n cwmpasu sail ein gwaith gan fod y stori eisioes wedi’ dyfeisio a’i pherfformio gan Big Brum, Cwmni Theatr mewn Addysg o Birmingham. Buom yn astudio gwaith yr addysgwr Keiran Egan, yn arbennig ei lyfr An Imaginative Approach to Teaching, ble mae’n disgrifio’r ystafell ddosbarth fel ystafell ddosbarth y dychymyg. Mae’r llyfr yn trafod arfau dysg elfennol sy’n bresennol ym mhob bod dynol ac yn cynorthwyo’r unigolyn i ddysgu. Mae rhain yn cynnwys odl, rhythm a phatrwm, jôcs a synnwyr digrifwch, cyferbynnu deuol, trosiad, dirgelwch, chwarae, hel clecs, lluniau’r dychymyg a stori. Wrth fod yn ymwybodol o’r rhain roeddem yn gobeithio dwyshau y profiad o ddysgu yn The Giant’s Embrace i’r plant.
Hoffwn gynnig dyfyniad gan Bruno Bettelheim ddylai dwi’n credu fod ar flaenau ein bysedd wrth greu a chynllunio ar gyfer ein cynhyrchiadau:
“For a story to truly hold the child’s attention it must entertain him and arouse his curiosity. But to enrich his life it must stimulate his imagination, help him to develop his intellect and to clarify his emotions, be attuned to his anxieties and aspirations, give full recognition to his difficulties whilst at the same time suggesting solutions to the problems which perturb him.”
Yn The Giant’s Embrace mae storïwraig gyda stori anorffenedig yn cytundebu cymorth dosbarth fel ‘storyendermakers’. Mae ffynhonnellau y stori i’w gweld yn y straeon tylwyth teg clasurol ac yn dechrau gyda bachgen o’r enw Tom sy’n byw gyda’i fam a’i frawd bach mewn cwt bach ar gyrion coedwig fawr – ble mae cawr barus yn byw. Mae’r cawr yn bwyta pawb a phopeth, mae’n yfed y dŵr i gyd - ac mae Tom yn cael ei anfon ar sawl siwrnai i’r goedwig i ddod o hyd i fwyd a diod i’w deulu. Ar y dair siwrnai mae’n cyfarfod ag un anifail bob tro, llygoden, tylluan a charw, y tri bron â marw. Mae Tom yn helpu pob un ac yn llwyddo dwywaith i ddod â chynhaliaeth nôl i’w deulu ond ysywaeth y trydydd tro mae’r cawr yn deffro ac yn gafael yn Tom. Mae’n mynd i’w fwyta cyn i Tom arbed ei hun trwy gynnig ei fam a’i frawd bach yn ei le…
A dyna ble mae stori Mrs Stori ar stop. Mae hi’n sownd. Nawr mae’n rhaid i’r plant orffen y stori.
Dydw i ddim yn credu fy mod yn gorddweud wrth awgrymu fod y plant yn creu mythau yn yr un modd â’r cyfarwydd hynafol oedd yn creu chwedl fel dull o ddeall ac egluro y byd iddynt eu hunain a’r bobloedd, miloedd o flynyddoedd yn ôl. Roedden nhw’n creu diweddiadau oedd ymron yn gyfochrog â chwedlau hynafol. Unwaith roedd rhaid gwneud i’r cawr feichio crïo fel bod ei ddagrau yn llenwi gwlâu sychion yr afonydd a gyda’r afonydd fe ddaeth tyfiant newydd i’r goedwig. Mae hyn yn cyfateb â sawl chwedl o’r creu, yn arbennig stori Viracocha y duw hynafol Periwaidd – llifodd y glaw fel dagrau o’i lygaid ddaeth a bywyd newydd i holl ddyffrynnoedd y byd. Roedd cymaint o gyffelybiaethau. Dro arall llyncodd y cawr Tom yn gyfan a beichiogi ei hun. Pan anwyd Tom deffrowyd y reddf i fagu ac wrth roi gofal roedd bygythiad y cawr i’r bobl bach a’u ffordd o fyw wedi’ ddiffodd. Mae hyn yn ymdebygu i stori Gwion Bach yn Y Mabinogi ble mae Ceridwen yn erlid Gwion Bach er mwyn ei ladd. Mae’r ddau yn llun newid yn ystod yr helfa ac mae’n diweddu gyda Ceridwen ar ffurf iâr yn bwyta Gwion Bach ar ffurf gronyn o ŷd. Mhen naw mis mae Ceridwen yn rhoi genedigaeth i Gwion Bach ond gan ei fod mor hardd dydy hi ddim yn gallu lladd y plentyn. Dydw i ddim yn credu fod y cyffelybiaethau yma yn bodoli oherwydd fod y plant wedi clywed yr hen chwedlau. Mae’r straeon yn gynhenid ynddyn’ nhw, mae ganddyn nhw’r gallu i storïa er mwyn deall eu byd yn well, i ateb eu problemau o’i fewn ac i’w bwyso a’i fesur.
Wrth roi deunydd y stori yn eu dwylo – er enghraifft y dylluan, y carw a’r llygoden – roedden nhw’n gallu eu dylanwadu a storia’n gorfforol heb gael eu llesteirio gan gyfathrebu geiriol. Rydyn ni’n gweithio gyda’r egwyddor “If you put things in people’s hands it makes hands do things.” Roedd y plant yn datrys problemau gyda’i gilydd ac yn gweld drostynt eu hunain fod adborth pob unigolyn yr un mor berthnasol – rhydd hyn yr hyder iddyn nhw barhau i siarad a thrafod eu syniadau yn ystod eu bywydau.
Rhaid cynnig stori i bobl ifanc sy’n cyffroi eu dychymyg a rhoi’r amser a’r gofod iddyn nhw ystyried a gwneud eu ystyron eu hunain. Rhaid i ni weithredu fel canolwyr rhwng y ffuglen a’r byd real. Rhaid i ni wironeddol adael iddyn nhw drafod y deunydd sy’n cael ei gynnig, yn feddyliol ac yn gorfforol. Rhaid i ni eu galluogi i gwestiynu y byd sydd o’u cwmpas yn hyderus. Rwy’n credu mai dim ond wrth roi’r amser iddyn nhw y bydd hyn yn bosibl. Dim ond dweud stori gyda bobl ifanc allwn ni mewn amser byr. Ond os oes amser digonol gyda ni, gallwn wneud stori a thrwy hyn ddysgu oddi wrth y naill a’r llall sut i fyw yn ein byd, beth mae’n ei olygu i fod yn fod dynol a sut mae ymdrechu i fod yn fwy felly.



