Theatr Powys yn Kosova
Ym mis Hydref 2005 bu Theatr Powys yn gweithio gyda plant ac athrawon ysgolion yn ardal dinas Gjilan.
Hyrwyddwyd y fenter gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a bu’r Cwmni yn cyflwyno’r rhaglen The King, The Crow and the Girl(Brenin, Brân a Branwen), rhaglen ThmA ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 oedd eisioes wedi ymweld ag ysgolion Powys.
Gweithiodd y Cwmni’n agos gydag athrawon Gjilan yn ystod y pythefnos a cynhaliwyd seminar ar ddiwedd y cyfnod i archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio drama fel arf mewn dosbarthiadau prin iawn eu hadnoddau.
Ffrwyth syniad ar y cyd Ian Yeoman(Cyfarwyddwr Artistig) a Shkelzen Berisha(actor Albaniaidd) oedd yr ymweliad; bu Shkelzen yn rhan o’r tîm dyfeisio a pherfformio The King, The Crow and the Girl yng Nghymru yn ystod tymor yr haf. Roedd y digwyddiad yn garreg filltir yn y berthynas rhyngwladol sefydlwyd gan The National Association for the Teaching of Drama(NATD) gydag addysgwyr ac artistiad o’r Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd.
Yn ogystal ag aelodau’r Cwmni – Ian Yeoman, Shkelzen Berisha, Margaret Higgins, Naomi Doyle, Olwen Medi a Chris Batten – ymunodd Steve Nolan a Maggie Hulson â’r brosiect, dau gyd-aelod o’r NATD a’r ddau yn addysgwyr drama profiadol ac yn gysylltiol â’r Cwmni. Bu’r ddau yn cyfranogi yn y rhaglen mewn ysgolion a’u cyfraniad yn allweddol i’r seminar.
Yn cynorthwyo o’r ochr Albaniaidd roedd Qemajl Dushica ac Ardian Hajdari, athrawon yn Ysgol Uwchradd Abaz Ajeti yn Rhanbarth Arberia o Gjilan a’r ddau fel Theatr Powys yn aelodau o’r NATD.
Y Rhaglen
Mae The King, The Crow and The Girl yn rhaglen gyfranogol diwrnod llawn. Gyda Antigone, Sophocles a Burial at Thebes, Seamus Heaney fel man cychwyn mae’r rhaglen yn mynd i’r afael â chysyniadau natur, diwylliant, angen ac arweinyddiaeth.
Mae’r cyfranogwyr yn cael eu fframio fel brain o fewn y ddrama ac yn dystion i ddigwydiadau ôl-ryfel mewn dinas islaw. Y brain sy’n amddiffyn a chefnogi merch ifanc a’r brain sy’n wynebu’r Brenin a herio yr arweiniad mae’n ei gynnig iddi hi.
Addaswyd ychydig ar gyd-destun ffuglennol y rhaglen gan fod yn rhaid gweithio drwy gyfrwng y Saesneg a’r iaith Albaniaidd. Shkelzen Berisha oedd y prif lywiwr gydag aelodau Theatr Powys yn cynnig delweddau trwy iaith arall fel brain ar ffo o sefyllfa ryfel arall.
Pan ymunodd Naomi Doyle ac Olwen Medi â ni plethwyd y Gymraeg i’r broses a’r Sbaeneg gyda dyfodiad Steve Nolan. Felly ar ddiwedd ein arhosiad roedd pedair iaith ar waith o fewn y rhaglen.
Roedd rhaid gadael y nyth brân yn Llandrindod ond fe deithiodd yr ychydig offer, y gwisgoedd a’r gryno-ddisg gyda ni – y gryno ddisg yn gallu cynnig cerddlun a cherddoriaeth pan oedd trydan ar gael; am y nyth – ymatebodd ein ffrindiau yn Gjilan yn ddibetrus. Yn ein haros ar y diwrnod cyntaf mewn cornel ystafell ddosbarth wag ac oer roedd sypiau taclus o ganghennau, brigau, gwair, gwlân, coesynnau ŷd a gwellt; ac mewn ysgol ddifreintiedig crewyd nyth barodd am bythefnos.
“Roedd gweithio gyda’r bobl ifanc yma yn brofiad amheuthun. Doedd gyda nhw ddim profiad blaenorol o weithio trwy stori na drama; roedd y dull o weithio yn gwbl newydd i’w hathrawon hefyd. Camodd pobl ifanc Albania i mewn i’r ffuglen yn ddi-gwestiwn a diragfarn heb ddangos unrhyw hunan ymwybyddiaeth, yn hytrach gydag ymrwymiad cymdeithasol gan gefnogi y naill a’r llall ac fe roddodd yr awdurdod tawel yma gryn sail i’r gwaith y buom yn ei rannu. Yn ddwfn yn ymwybyddiaeth bob un ohonynt mae profiadau rhyfel a’u profiad cyfredol o fyw mewn sefyllfa ôl-ryfel difreintiedig. Llwythwyd ein drama ni gyda’r angen i rannu a chwestiynu y profiad yma, bu trafodaeth ac ymdriniaeth ar lefelau dwfn; diffinwyd ac ail ddiffinwyd ein dealltwriaeth ni am oriau – a’r oriau rheini yn teimlo fel oesoedd yn yr ystyr orau.”
Ian Yeoman



