
Teithio Cymunedol
Mae Theatr Powys yn teithio i neuaddau ysgol a phentref, canolfannau cymuned a lleoliadau theatr ar hyd a lled Powys, o Fôn i Fynwy a thu hwnt. Dyma theatr ar gyfer y teulu cyfan gyda stori all gyfareddu a hudo beth bynnag fo'r oedran.
Yn nheyrnas diniweidrwydd –
Gwae hwnnw, wrth y pyrth;
Rhy hen i brofi’r syndod,
Rhy gall i weld y wyrth!
Rhydwen Williams
Mae'r Cwmni'n gweithio mewn partneriaeth gyda sawl canolfan gymdeithasol o fewn Powys. Mae'r gymdeithas leol yn cynnal y noson ac yn cydweithio â'r Cwmni er mwyn marchnata'r perfformiad. Mae croeso i Theatr Powys mewn sawl cymuned ym Mhowys a'r trigolion yn gwerthfawrogi nid yn unig safon uchel y cynyrchiadau ond yn bwysicach y cyfraniad mae gwaith y Cwmni yn ei wneud i ansawdd bywyd mewn cymuned fechan.
"My father was out there. I remember his stories - that's where he learnt to type."
"I liked looking behind the door."
"How d'you manage it! Brilliant, from start to finish. What are you doing next year?"
Adborth i Angel gan Chris Cooper.
> Teithio Cymunedol Digwyddiadau



