Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys

 

Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys

Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys

Sefydlwyd MPYT ym 1987 fel rhan o raglen ddatblygu theatr gymunedol Theatr Powys. Ers y dyddiau cynnar hynny mae’r criw wedi cynhyrchu gwaith o safon ar lefel lleol yn ogystal â thu allan i ffiniau’r sir.

Mae Theatr Powys wrth y llyw yn noddi ac yn rheoli ac yn sicrhau bod MPYT yn darparu cyfle unigryw i fobl ifanc canolbarth Cymru. Dros y blynyddoedd mae’r cwmni wedi rhoi hyder a hunan barch i gannoedd o fobl ifanc ac mae’n parhau i weithredu fel pair cymdeithasol a diwylliannol.

Yn achlysur hydrefol blynyddol mae MPYT yn cyflwyno cynhyrchiad prif lwyfan gyda cwmni o hyd at 40 o actorion, cerddorion a thechnegwyr oll o dan gyfarwyddyd arweiniad proffesiynol. Mae ansawdd y cynyrchiadau ac ymrwymiad diflino y bobl ifanc wedi ennill dilynwyr ffyddlon a rhoi’r cwmni ar galendr diwylliannol y canolbarth. Ymysg y perfformiadau diweddar mae Nicholas Nickleby, Lysistrata a Watership Down.

Mae MPYT hefyd yn cynnig cyfleoedd cydweithrediadol ar ffurf cynyrchiadau llai gyda chyfarwyddwyr proffesiynol ac actorion craidd Theatr Powys. Mae’r perfformiadau diweddar yn cynnwys Victoria’s Children, ddyfeisiwyd gan y Cwmni ar gyfer Gŵyl Fictoraidd Llandrindod a The Children, Edward Bond – cynhyrchiad ennillodd glod yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Trwy gydol y flwyddyn mae rhaglen amrywiol o weithdai ar nosweithiau Mawrth yn y Ganolfan Ddrama. Yn y gorffennol mae’r gweithdai yma wedi arwain at brosiectau yn cael eu harwain a’u paratoi gan y bobl ifanc eu hunain. E.e Shades of Blue, cyfanwaith o ddawns, drama, barddoniaeth a cherddoriaeth i godi arian ar gyfer dioddefwyr Tswnami Indonesia. Hefyd Not In My Name, budd-berfformiad i’r rhai sy’n dioddef yn enw rhyfel.

I gau pen y mwdwl mae ysgolion haf, cydffrwythloni diwylliannol, cynadleddau theatr bobl ifanc a gwyliau.

Mae croeso cynnes i aelodau rhwng 14 a 24 mlwydd oed.

 

Nodau ac Amcanion MPYT

Yn gymdeithasol:

Hybu cydweithrediad ymysg pobl ifanc trwy weithgareddau difyr a chreadigol.

Datblygu ymroddiad a chydnabyddiaeth o gyfrifoldeb personol a chymdeithasol.

Hyrwyddo medrusrwydd cymdeithasol a gallu pobl ifanc i gyfathrebu’n ystyriol ymysg ei gilydd ac ar goedd.

Yn ddiwylliannol:

Cynnig cyfle i bobl ifanc ymchwilio, datblygu a mynegi eu dealltwriaeth o’r byd trwy gyfranogi mewn gweithdai wythnosol a pherfformiadau theatr.

Datblygu sgiliau ymarferol mewn sawl agwedd o waith theatr sy’n cyffroi ac yn herio’r unigolyn.

Gosod y sail am berthynas hirdymor mewn theatr a’r celfyddydau.

Bywiogi a diddanu y gymuned.