Theatr mewn Addysg

 

Theatr mewn Addysg

Theatr mewn Addysg

Ers y dechrau mae lle a llais pobl ifanc ynghyd â rôl y dychymyg yn eu datblygiad yn ganolog i egwyddorion artistig ac addysgol y Cwmni.

Yng nghuriad calon y gwaith mae’r canlynol:

Beth sy’n ddynol am fodau dynol?
Beth sy’n gyfrifol am hyn?
Sut mae ‘bod’ yn fwy dynol?

Mae’r Cwmni o’r farn fod Theatr mewn Addysg(ThmA) yn fethodoleg arbennig sy’n galluogi y bobl ifanc sy’n cymryd rhan i ddarganfod llais a phŵer fel unigolyn. Yn anorfod mae gwahanu rhwng emosiwn, crebwyll a gweithred o fewn cwricwlwm ysgol, nid felly o fewn ThmA, yn hytrach mae uniad. Mae’r bobl ifanc sy’n cyfranogi yng ngwaith y Cwmni yn ymrwymo yn synhwyrus a deallus mewn proses sy’n annog empathi, statws cyfartal a chyfrifoldeb am benderfyniadau gan ysgwyddo’r canlyniadau.

Gan weithio ar y cyd trwy gyfrwng theatr a drama mae dychymyg y bobl ifanc yn cael ei ddenu a’i danio, yn cael ei agor i ddychmygu – y real. O fewn y pair mae penderfyniadau, anghysondebau, peryglon, dilemâu, goblygiadau a chanlyniadau i’w hwynebu.

Yn ogystal â’r ddarpariaeth i ysgolion y Sir mae’r Cwmni yn gweithio gyda myfyrwyr colegau uwch a phrifysgol sy’n astudio ym meysydd addysg a’r celfyddydau perfformio.

I ysgolion Powys mae’r wasanaeth yn rhad ac am ddim.