

Y Ganolfan Ddrama
Wedi 6 mlynedd dros dro ar Stad y Ddole yn dilyn tân daeth y Cwmni'n ôl i glwydo yn ein Canolfan Ddrama ar ei newydd wedd yn 2006. Mae yma gartref cysurus, diogel a chwbl integredig; adnodd sy'n hygyrch i'r cyhoedd ac yn fangre llawn potensial fel man cyfarfod.
Mae'n bosibl llogi y stiwdio a'r gynadleddfa ac mae lluniaeth ysgafn hefyd ar gael. Ffoniwch 01597 824444 am fwy o wybodaeth. Mae'r Cwmni yn cynllunio rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer y flwyddyn, bydd y manylion ar ein tudalen Digwyddiadau.
Yn llygad-dynnu yn maes parcio mae 'Peel' cynllun cyfoes y cerflunydd lleol Andy Hazell a dathliad o greadigedd Theatr Powys. Ariannwyd y comisiwn gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o adnewyddiad Y Ganolfan Ddrama.
> Digwyddiadau: Y Ganolfan Ddrama
Prisiau: Defnydd/Llogi Y Ganolfan Ddrama
Y Stiwdio
£20.00 yr awr
£15.00 yr awr i grwpiau lleol (gostyngiad o 10% am isafrif o 8 bwciad)
Y Gynadleddfa (seddu 16)
£15.00 yr awr
£10.00 yr awr i grwpiau lleolLluniaeth
Te/coffi Masnach Deg £1.50 y pen
Bwyd Bys a Bawd (prisiau - y pen)
Dewis Un - Brechdanau £3 a £4
Dewis Dau - Darn o gacen £1.50
Dewis Tri - Ffrwyth £1
Dewis Pedwar - Salad £1
Dewis Pump - Cyfuniad o dri £3.50
Mwy o fanylion www.herbgardencafe.co.uk Working Lunch Buffet Menu
Offer
Llogi Taflunydd Digidol £10.00



